Gyrru drwy Storom
Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg
am salwch meddwl er bod 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl ar ryw
gyfnod yn ystod ein bywyd. Yn y gyfrol
arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo,
trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a'u hysgrifau. Trafodir y
salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau'n ddirdynnol, gwelir bod gwella a
bod yn obeithiol am y dyfodol.
Ymhlith y cyfranwyr, mae Angharad Gwyn, Angharad
Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Dr Mair Edwards, Geraint
Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd a Malan Wilkinsôn.
Mae angen trafod salwch
meddwl yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny, yn Gymraeg yn ôl Alaw Griffiths,
golygydd y gyfrol.
Meddai Alaw, “Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad
pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni
ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw
fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella. Wrth ddod yn gryfach dechreuais
bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau
gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg”.
Mae gŵr Alaw, y bardd Hywel
Griffiths, wedi cyfrannu at y gyfrol ond nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl
sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd
hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef a’n bod yn debygol iawn o
adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn
hefyd.
Meddai Hywel Griffiths, “Mae'r gyfrol yn brawf pendant
bod modd gwella o salwch meddwl a gobeithio bod hynny yn rhoi gobaith i bobl.
Hefyd, gobeithio ei fod yn dangos bod ysgrifennu am brofiadau yn gallu helpu ac
yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud”.