29/04/2016

Llyfr y Mis - Ebrill



Pan lansiwyd y cylchgrawn dychanol Lol hanner canrif yn ôl doedd neb, mae’n siŵr, yn proffwydo rhyw oes hir iddo. Er cymaint roedd angen y fath gylchgrawn, doedd neb yn disgwyl i fenter a oedd yn ffrwyth gweledigaeth dau fyfyriwr pryfoclyd yng nghanol y 1960au oroesi. Ond dyna a wnaeth, gan fod yn dyst i gladdedigaeth amryw o gylchgronau ‘saffach’ fel Byw a Hamdden, Llais Llyfrau ac Asbri, Sŵn a Blodau’r Ffair, a’r cylchgrawn llenyddol Pori. 

Y ddau symbylydd oedd Robat Gruffudd a Penri Jones, cyd-fyfyrwyr ym Mangor, a ganwyd y babi sgrechlyd ac anynad yn Eisteddfod y Drenewydd yn 1965. Ac yn awr dyma adrodd y stori a chynnwys pigion y daith ‘dros hanner canrif o hiwmor, enllib a rhyw’. A do, bu’r tair elfen yn anhepgor i gynnwys, apêl a llwyddiant y cylchgrawn drwyddi draw. 

Bu’r hiwmor a’r rhyw yn ganolog i Lol o’r cychwyn. Ond weithiau pigwyd ambell swigen i’r fath raddau nes ennyn yr ail elfen. Yr enghraifft enwocaf o achos o enllib oedd cwyn Cynan am rifyn Eisteddfod y Bala 1967 pan fu’n rhaid rhwygo un tudalen arbennig allan o bob copi. 

Roedd yr achos hwnnw’n cyfuno’r drydedd elfen, sef rhyw. Bu lluniau merched hanner pyrcs yn anhepgor i’r cylchgrawn o’r dechrau. Ar ôl defnyddio lluniau ail-law, teimlwyd y dylid cynnwys lluniau modelau go iawn, a hynny’n arwain yn ei dro at ryfel, bron iawn, rhwng golygydd a ffotograffydd Lol a mam un o’r modelau yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. O ganlyniad cafodd Lol ei hun ar dudalennau’r Times mewn erthygl ogleisiol gan Jilly Cooper. 

Dylid nodi nad ysgafnder oedd popeth. Na, dadlennwyd ambell sgŵp ac roedd safon rhai o’r cartwnau, eiddo’r brodyr Tegwyn Jones ac Elwyn Ioan yn arbennig, yn glasuron. Yn wir, daeth cael eu henwi yn Lol yn uchelgais ymhlith rhai o enwogion a lyfis Cymru a daeth y rhecsyn gwrthsefydliadol yn fath ar sefydliad ei hun. 

Mae hwn yn glamp o lyfr sy’n cynnwys y pigion, yn straeon a lluniau, gan eu gosod yn eu cyd-destun o ran hanes Cymru a hanes y byd. Cawn gan y golygydd grynhoad perffaith o elfennau Lol yn ei ragair. Bu’n ‘anweddus, yn blentynnaidd a dialgar, ond ar yr un pryd yn ffraeth, yn iachus ac yn hanfodol,’ meddai. ‘Rhoddodd y “rhecsyn anllad” ryw olwg twrch daear i ni ar hanes diwylliannol a gwleidyddol y cyfnod diwethaf.’ 

Ymlaen i’r hanner canrif nesaf! 

Lyn Ebenezer 

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

No comments:

Post a Comment