Showing posts with label Alaw Griffiths. Show all posts
Showing posts with label Alaw Griffiths. Show all posts

04/02/2016

Pwy ydi Alaw Griffiths?



Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alaw wedi bod yn gweithio yn y maes trefnu digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata ers 2006. Mae ei gwaith proffesiynol yn cynnwys gweithio gydag amryw o gwmnïau a sefydliadau megis cwmni cyfathrebu Momentwm, Cyngor Llyfrau Cymru a Theatr Felinfach a BBC Radio Cymru. Mae hefyd wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer BBC Cymru ac S4C trwy ei gwaith gyda Momentwm. Bu’n Gyfarwyddwr gwasanaeth trefnu priodasau Calon ac yn Rheolwr Busnes Teithio.
Mae’n byw yng Ngheredigion gyda’i gŵr, y bardd Hywel Griffiths, a’u merch, Lleucu.


01/02/2016

Llyfr y Mis: Chwefror

Gyrru drwy Storom
 


Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg am salwch meddwl er bod 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl ar ryw gyfnod yn ystod ein bywyd.  Yn y gyfrol arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a'u hysgrifau. Trafodir y salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau'n ddirdynnol, gwelir bod gwella a bod yn obeithiol am y dyfodol.

Ymhlith y cyfranwyr, mae Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Dr Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd a Malan Wilkinsôn.

Mae angen trafod salwch meddwl yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny, yn Gymraeg yn ôl Alaw Griffiths, golygydd y gyfrol.  

Meddai Alaw, “Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella. Wrth ddod yn gryfach dechreuais bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg”.

Mae gŵr Alaw, y bardd Hywel Griffiths, wedi cyfrannu at y gyfrol ond nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef a’n bod yn debygol iawn o adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn hefyd.

Meddai Hywel Griffiths, “Mae'r gyfrol yn brawf pendant bod modd gwella o salwch meddwl a gobeithio bod hynny yn rhoi gobaith i bobl. Hefyd, gobeithio ei fod yn dangos bod ysgrifennu am brofiadau yn gallu helpu ac yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud”.