Showing posts with label Lolfa. Show all posts
Showing posts with label Lolfa. Show all posts

29/04/2016

Llyfr y Mis - Ebrill



Pan lansiwyd y cylchgrawn dychanol Lol hanner canrif yn ôl doedd neb, mae’n siŵr, yn proffwydo rhyw oes hir iddo. Er cymaint roedd angen y fath gylchgrawn, doedd neb yn disgwyl i fenter a oedd yn ffrwyth gweledigaeth dau fyfyriwr pryfoclyd yng nghanol y 1960au oroesi. Ond dyna a wnaeth, gan fod yn dyst i gladdedigaeth amryw o gylchgronau ‘saffach’ fel Byw a Hamdden, Llais Llyfrau ac Asbri, Sŵn a Blodau’r Ffair, a’r cylchgrawn llenyddol Pori. 

Y ddau symbylydd oedd Robat Gruffudd a Penri Jones, cyd-fyfyrwyr ym Mangor, a ganwyd y babi sgrechlyd ac anynad yn Eisteddfod y Drenewydd yn 1965. Ac yn awr dyma adrodd y stori a chynnwys pigion y daith ‘dros hanner canrif o hiwmor, enllib a rhyw’. A do, bu’r tair elfen yn anhepgor i gynnwys, apêl a llwyddiant y cylchgrawn drwyddi draw. 

Bu’r hiwmor a’r rhyw yn ganolog i Lol o’r cychwyn. Ond weithiau pigwyd ambell swigen i’r fath raddau nes ennyn yr ail elfen. Yr enghraifft enwocaf o achos o enllib oedd cwyn Cynan am rifyn Eisteddfod y Bala 1967 pan fu’n rhaid rhwygo un tudalen arbennig allan o bob copi. 

Roedd yr achos hwnnw’n cyfuno’r drydedd elfen, sef rhyw. Bu lluniau merched hanner pyrcs yn anhepgor i’r cylchgrawn o’r dechrau. Ar ôl defnyddio lluniau ail-law, teimlwyd y dylid cynnwys lluniau modelau go iawn, a hynny’n arwain yn ei dro at ryfel, bron iawn, rhwng golygydd a ffotograffydd Lol a mam un o’r modelau yn Eisteddfod Hwlffordd 1972. O ganlyniad cafodd Lol ei hun ar dudalennau’r Times mewn erthygl ogleisiol gan Jilly Cooper. 

Dylid nodi nad ysgafnder oedd popeth. Na, dadlennwyd ambell sgŵp ac roedd safon rhai o’r cartwnau, eiddo’r brodyr Tegwyn Jones ac Elwyn Ioan yn arbennig, yn glasuron. Yn wir, daeth cael eu henwi yn Lol yn uchelgais ymhlith rhai o enwogion a lyfis Cymru a daeth y rhecsyn gwrthsefydliadol yn fath ar sefydliad ei hun. 

Mae hwn yn glamp o lyfr sy’n cynnwys y pigion, yn straeon a lluniau, gan eu gosod yn eu cyd-destun o ran hanes Cymru a hanes y byd. Cawn gan y golygydd grynhoad perffaith o elfennau Lol yn ei ragair. Bu’n ‘anweddus, yn blentynnaidd a dialgar, ond ar yr un pryd yn ffraeth, yn iachus ac yn hanfodol,’ meddai. ‘Rhoddodd y “rhecsyn anllad” ryw olwg twrch daear i ni ar hanes diwylliannol a gwleidyddol y cyfnod diwethaf.’ 

Ymlaen i’r hanner canrif nesaf! 

Lyn Ebenezer 

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

06/03/2016

Ebargofiant gan Jerry Hunter



 
"Pan glywais am nofel newydd Jerry Hunter, ofnais y gwaethaf. Ai jôc oedd hon hefyd, ynteu ymgais i greu rhyw fath ar grach lenyddiaeth? Wel na, dim o'r fath beth. Mae hi'n wahanol, ydi. Ond mae hi hefyd yn gwneud synnwyr o ran syniad.

Mae'r prif gymeriad, Ed, yn byw rywbryd yn y dyfodol. Ac yn dilyn chwalfa ecolegol (posibilrwydd sy'n erchyll o gredadwy), mae'n gorfod dysgu byw o'r newydd. Ac yn union fel y dyn cyntefig gynt, mae e'n mynd ati i ddechrau ysgrifennu...
Mae'r syniad yn un hynod wreiddiol. Bûm yn dyfalu droeon sut deimlad fu e i'r dyn cyntaf osod marc bwriadol ar garreg, darn o bren neu dabled o glai. Mae un marc yn troi'n ddau, a'r rheiny'n farciau gwahanol nes llunio gwyddor a geirfa. Y gallu i ysgrifennu, mae'n rhaid gen i, oedd darganfyddiad pwysicaf dynoliaeth.
Am y deg neu'r ugain tudalen agoriadol cefais gryn drafferth i ddilyn yr orgraff. Ond yn araf fe ddisgynnodd y llythrennau i'w lle gan ddarparu profiad unigryw. Mae Ebargofiant yn llawer haws i'w deall na Finnegan's Wake. Ac yn llawer ysgafnach i'w chario. Ac yn wahanol i Finnegan's Wake – ac Ulysses o ran hynny – fe lwyddais i orffen hon."
Lyn Ebenezer, Gwales
 
"Wy yw'r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus... o ddyfalbarhau gellid cael mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn i'r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a'r themâu.
Digon yw dweud fy mod i'n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi'r cyfan! Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy'n credu y bydd y themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn.
Dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall."
Ifan Morgan Jones


Y llyfr aeth bron i ebargofiant
Golwg360 3 Ebrill 2104
Bu bron i nofel newydd Jerry Hunter beidio â gweld golau dydd wrth i’r awdur wrthod cais y Cyngor Llyfrau i addasu’i arddull arbrofol o ysgrifennu.

Mae’r stori sydd yn cael ei hadrodd yn ‘Ebargofiant’ yn dychmygu’n byd yn y dyfodol yn dilyn effeithiau newid hinsawdd, ble mae’r gymdeithas wedi mynd yn gyntefig ac anllythrennog.

Ond elfen fwyaf arbrofol y nofel yw’r iaith y mae Hunter yn ei ddefnyddio, wrth i’r stori agor gyda’r geiriau: “Dwin biw miwn twł. Nid vi dir 1ig1 sin biw miwn twł nd vi dir 1ig1 sin biwn y twł sin gartra i vi.”

Ac fe gyfaddefodd yr awdur mai dim ond ei ystyfnigrwydd ef a arweiniodd at weld y nofel yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf wreiddiol.

“Roedd y Lolfa’n hapus iawn i’w gymryd ymlaen, ond doedd o ddim mor hawdd i sicrhau cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau – mi wnaethon nhw yn y diwedd, chwarae teg iddyn nhw,” esboniodd Jerry Hunter wrth Golwg.

“Ond ar y dechrau doedden nhw ddim mor sicr amdano fo. Roedd yna ryw awgrym yn dod y dylwn i newid yr iaith, a’i wneud yn haws i’w ddarllen – ac fe wnes i wrthod.

“Wedyn mae’n braf ei fod yn dod allan yn y diwedd … mae’n gofeb i styfnigrwydd awdur!”

04/03/2016

Pwy ydi Jerry Hunter?

Pwy ydi Jerry Hunter?



Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, graddiodd yr Athro Jerry Hunter ym Mhrifysgol Cincinnati, cyn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard. Dysgodd Gymraeg mewn cyrsiau WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Harvard a Chaerdydd cyn ymuno ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2003. Mae bellach yn ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn byw gyda’i deulu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Mae’n adnabyddus fel cyflwynydd dwy gyfres deledu ar S4C a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd ganddo.

Mae Jerry Hunter yn awdur profiadol. Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd, y wobr yn 2004. Cyhoeddodd nofel i blant Ceffylau’r Cymylau yn 2010.Enillodd ei nofel Gwenddydd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2010. Ei nofel ddiweddaraf yw Y Fro Dywyll.

[addasiad o wybodaeth oddi ar wefannau Wicepdia a Prifysgol Bangor]

01/03/2016

Llyfr y Mis - Mawrth 2016

Llyfr y Mis - Mawrth 2016




“Mae arddull Ebargofiant yn arbrofol iawn,” cyfaddefa Jerry Hunter, “Fy nod yw cynnig profiad hollol unigryw i'r darllenydd, profiad sy'n debyg i ddysgu darllen am y tro cyntaf . . . neu ddysgu iaith newydd hyd yn oed.”

Mae Ed, prif gymeriad Ebargofiant, yn byw yn y dyfodol pell yn dilyn chwalfa ecolegol. Mae'r byd yn llwm, a rhaid i bobl geisio byw mewn ffordd gyntefig iawn, neu farw'n trio. Yn dilyn marwolaeth ei dad, mae Ed yn rhoi cynnig ar gamp newydd – mae'n ceisio ysgrifennu. Nid oes bron neb arall yn meddu ar y gallu i ysgrifennu, ac felly mae hunangofiant y prif gymeriad yn cynnig cipolwg ar y prosesau sy'n dod gyda dechrau llythrennedd. Mae'r gallu newydd hwn yn ei ysbrydoli i fentro tu hwnt i'w fyd - yn feddyliol ac yn gorfforol.

Nofel gyfoes sy'n llawn hiwmor a dychan.


#DarllenBeiddgar #ReadingDaringly

04/02/2016

Pwy ydi Alaw Griffiths?



Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alaw wedi bod yn gweithio yn y maes trefnu digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata ers 2006. Mae ei gwaith proffesiynol yn cynnwys gweithio gydag amryw o gwmnïau a sefydliadau megis cwmni cyfathrebu Momentwm, Cyngor Llyfrau Cymru a Theatr Felinfach a BBC Radio Cymru. Mae hefyd wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer BBC Cymru ac S4C trwy ei gwaith gyda Momentwm. Bu’n Gyfarwyddwr gwasanaeth trefnu priodasau Calon ac yn Rheolwr Busnes Teithio.
Mae’n byw yng Ngheredigion gyda’i gŵr, y bardd Hywel Griffiths, a’u merch, Lleucu.


01/02/2016

Llyfr y Mis: Chwefror

Gyrru drwy Storom
 


Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg am salwch meddwl er bod 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl ar ryw gyfnod yn ystod ein bywyd.  Yn y gyfrol arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a'u hysgrifau. Trafodir y salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau'n ddirdynnol, gwelir bod gwella a bod yn obeithiol am y dyfodol.

Ymhlith y cyfranwyr, mae Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Dr Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd a Malan Wilkinsôn.

Mae angen trafod salwch meddwl yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny, yn Gymraeg yn ôl Alaw Griffiths, golygydd y gyfrol.  

Meddai Alaw, “Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella. Wrth ddod yn gryfach dechreuais bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg”.

Mae gŵr Alaw, y bardd Hywel Griffiths, wedi cyfrannu at y gyfrol ond nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef a’n bod yn debygol iawn o adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn hefyd.

Meddai Hywel Griffiths, “Mae'r gyfrol yn brawf pendant bod modd gwella o salwch meddwl a gobeithio bod hynny yn rhoi gobaith i bobl. Hefyd, gobeithio ei fod yn dangos bod ysgrifennu am brofiadau yn gallu helpu ac yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud”.

 


04/01/2016

Pwy ydi Dewi Prysor?



Brodor o Gwm Prysor, Trawsfynydd yn wreiddiol ydi Dewi, ac mae o'n enw cyfarwydd trwy Gymru bellach. Saer maen oedd ei alwedigaeth cyn iddo droi at lenyddiaeth a cherddoriaeth. Mae o'n ganwr-gyfansoddwr gyda'r band reggae a pync Vates. Mae'n byw yn Llan Ffestiniog gyda'i wraig a thri o feibion.

Rifiera Reu yw ei chweched nofel i oedolion. Enwyd Lladd Duw (Y Lolfa) ar restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011 ac fe gyrhaeddodd ei nofel ddiwethaf, Cig a Gwaed (Y Lolfa) Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.

Yn 1992, cyhuddwyd Prysor o 'gynllwynio i achosi frwydradau' fel rhan o ymgyrch losgi Meibion Glyndwr. Treuliodd 14 mis yn y ddalfa yng Ngharchar Walton, Lerpwl wrth aros ei achos llys. Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron, Caernarfon fe'i cafwyd yn ddieuog. Ysgrifennod ddrama ynglyn a'i brofiadau, sef DW2416, a pherfformiwyd hi 25 gwaith gan Llwyfan Gogledd Cymru.

(Gwybodaeth o Wicipedia https://cy.wikipedia.org/wiki/Dewi_Prysor)


01/01/2016

Llyfr mis Ionawr: Rifiera Reu gan Dewi Prysor


'Pryd stopiodd y byd gael parti?'

Ymdrechion criw o ffrindiau i ddathlu Eclips 2015, y Gorleuad a Chyhydnos y Gwanwyn trwy gynnal y parti gorau a welwyd erioed - gyda chymorth deliwr cyffuriau lleol, cerddoriaeth dda a broc môr hynod o annisgwyl.

Wedi achub jiwcbocs rhag y sgip, mae criw o drop-owts canol oed yn cael syniad. Heb yn wybod iddyn nhw, dyma'r syniad gorau gafodd unrhyw gasgliad o misfits methiannus erioed. Wedi cyfres o gyd-ddigwyddiadau, maen nhw'n dechrau credo bod ffawd o'u plaid o'r diwedd.