Showing posts with label Ebargofiant. Show all posts
Showing posts with label Ebargofiant. Show all posts

06/03/2016

Ebargofiant gan Jerry Hunter



 
"Pan glywais am nofel newydd Jerry Hunter, ofnais y gwaethaf. Ai jôc oedd hon hefyd, ynteu ymgais i greu rhyw fath ar grach lenyddiaeth? Wel na, dim o'r fath beth. Mae hi'n wahanol, ydi. Ond mae hi hefyd yn gwneud synnwyr o ran syniad.

Mae'r prif gymeriad, Ed, yn byw rywbryd yn y dyfodol. Ac yn dilyn chwalfa ecolegol (posibilrwydd sy'n erchyll o gredadwy), mae'n gorfod dysgu byw o'r newydd. Ac yn union fel y dyn cyntefig gynt, mae e'n mynd ati i ddechrau ysgrifennu...
Mae'r syniad yn un hynod wreiddiol. Bûm yn dyfalu droeon sut deimlad fu e i'r dyn cyntaf osod marc bwriadol ar garreg, darn o bren neu dabled o glai. Mae un marc yn troi'n ddau, a'r rheiny'n farciau gwahanol nes llunio gwyddor a geirfa. Y gallu i ysgrifennu, mae'n rhaid gen i, oedd darganfyddiad pwysicaf dynoliaeth.
Am y deg neu'r ugain tudalen agoriadol cefais gryn drafferth i ddilyn yr orgraff. Ond yn araf fe ddisgynnodd y llythrennau i'w lle gan ddarparu profiad unigryw. Mae Ebargofiant yn llawer haws i'w deall na Finnegan's Wake. Ac yn llawer ysgafnach i'w chario. Ac yn wahanol i Finnegan's Wake – ac Ulysses o ran hynny – fe lwyddais i orffen hon."
Lyn Ebenezer, Gwales
 
"Wy yw'r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus... o ddyfalbarhau gellid cael mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn i'r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a'r themâu.
Digon yw dweud fy mod i'n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi'r cyfan! Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy'n credu y bydd y themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn.
Dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall."
Ifan Morgan Jones


Y llyfr aeth bron i ebargofiant
Golwg360 3 Ebrill 2104
Bu bron i nofel newydd Jerry Hunter beidio â gweld golau dydd wrth i’r awdur wrthod cais y Cyngor Llyfrau i addasu’i arddull arbrofol o ysgrifennu.

Mae’r stori sydd yn cael ei hadrodd yn ‘Ebargofiant’ yn dychmygu’n byd yn y dyfodol yn dilyn effeithiau newid hinsawdd, ble mae’r gymdeithas wedi mynd yn gyntefig ac anllythrennog.

Ond elfen fwyaf arbrofol y nofel yw’r iaith y mae Hunter yn ei ddefnyddio, wrth i’r stori agor gyda’r geiriau: “Dwin biw miwn twł. Nid vi dir 1ig1 sin biw miwn twł nd vi dir 1ig1 sin biwn y twł sin gartra i vi.”

Ac fe gyfaddefodd yr awdur mai dim ond ei ystyfnigrwydd ef a arweiniodd at weld y nofel yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf wreiddiol.

“Roedd y Lolfa’n hapus iawn i’w gymryd ymlaen, ond doedd o ddim mor hawdd i sicrhau cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau – mi wnaethon nhw yn y diwedd, chwarae teg iddyn nhw,” esboniodd Jerry Hunter wrth Golwg.

“Ond ar y dechrau doedden nhw ddim mor sicr amdano fo. Roedd yna ryw awgrym yn dod y dylwn i newid yr iaith, a’i wneud yn haws i’w ddarllen – ac fe wnes i wrthod.

“Wedyn mae’n braf ei fod yn dod allan yn y diwedd … mae’n gofeb i styfnigrwydd awdur!”

04/03/2016

Pwy ydi Jerry Hunter?

Pwy ydi Jerry Hunter?



Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, graddiodd yr Athro Jerry Hunter ym Mhrifysgol Cincinnati, cyn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard. Dysgodd Gymraeg mewn cyrsiau WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Harvard a Chaerdydd cyn ymuno ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2003. Mae bellach yn ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn byw gyda’i deulu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Mae’n adnabyddus fel cyflwynydd dwy gyfres deledu ar S4C a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd ganddo.

Mae Jerry Hunter yn awdur profiadol. Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd, y wobr yn 2004. Cyhoeddodd nofel i blant Ceffylau’r Cymylau yn 2010.Enillodd ei nofel Gwenddydd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2010. Ei nofel ddiweddaraf yw Y Fro Dywyll.

[addasiad o wybodaeth oddi ar wefannau Wicepdia a Prifysgol Bangor]

01/03/2016

Llyfr y Mis - Mawrth 2016

Llyfr y Mis - Mawrth 2016




“Mae arddull Ebargofiant yn arbrofol iawn,” cyfaddefa Jerry Hunter, “Fy nod yw cynnig profiad hollol unigryw i'r darllenydd, profiad sy'n debyg i ddysgu darllen am y tro cyntaf . . . neu ddysgu iaith newydd hyd yn oed.”

Mae Ed, prif gymeriad Ebargofiant, yn byw yn y dyfodol pell yn dilyn chwalfa ecolegol. Mae'r byd yn llwm, a rhaid i bobl geisio byw mewn ffordd gyntefig iawn, neu farw'n trio. Yn dilyn marwolaeth ei dad, mae Ed yn rhoi cynnig ar gamp newydd – mae'n ceisio ysgrifennu. Nid oes bron neb arall yn meddu ar y gallu i ysgrifennu, ac felly mae hunangofiant y prif gymeriad yn cynnig cipolwg ar y prosesau sy'n dod gyda dechrau llythrennedd. Mae'r gallu newydd hwn yn ei ysbrydoli i fentro tu hwnt i'w fyd - yn feddyliol ac yn gorfforol.

Nofel gyfoes sy'n llawn hiwmor a dychan.


#DarllenBeiddgar #ReadingDaringly