Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, graddiodd yr Athro Jerry
Hunter ym Mhrifysgol Cincinnati, cyn astudio am MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth
ac yna am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Harvard. Dysgodd Gymraeg mewn cyrsiau
WLPAN yn Llanbedr Pont Steffan. Bu’n darlithio ym mhrifysgolion Harvard a
Chaerdydd cyn ymuno ag Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2003. Mae bellach yn
ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn byw gyda’i deulu ym Mhenygroes,
Dyffryn Nantlle. Mae’n adnabyddus fel cyflwynydd dwy gyfres deledu ar S4C a
ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd ganddo.
Mae Jerry Hunter yn awdur profiadol. Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd, y wobr yn 2004. Cyhoeddodd nofel i blant Ceffylau’r Cymylau yn 2010.Enillodd ei nofel Gwenddydd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2010. Ei nofel ddiweddaraf yw Y Fro Dywyll.
[addasiad o wybodaeth oddi ar wefannau Wicepdia a Prifysgol Bangor]
No comments:
Post a Comment